Psalms 150

Molwch yr Arglwydd!

1Haleliwia!

Molwch Dduw yn ei deml!
Molwch e yn ei nefoedd gadarn!
2Molwch e am wneud pethau mor fawr!
Molwch e am ei fod mor wych!
3Molwch e drwy chwythu'r corn hwrdd
150:3 corn hwrdd Hebraeg, “shoffar”
!
Molwch e gyda'r nabl a'r delyn!
4Molwch e gyda drwm a dawns!
Molwch e gyda llinynnau a ffliwt!
5Molwch e gyda sŵn symbalau!
Molwch e gyda symbalau'n atseinio!
6Boed i bopeth sy'n anadlu foli'r Arglwydd!

Haleliwia!
Copyright information for CYM